20 Dywedodd yntau, “Dewch â llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo.”
21 Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy.”
22 Ac y mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel y dywedodd Eliseus.
23 Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, “Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!”
24 Troes yntau i edrych arnynt, a'u melltithio yn enw'r ARGLWYDD. Yna daeth dwy arth allan o'r goedwig a llarpio dau a deugain o'r plant.
25 Oddi yno aeth i Fynydd Carmel, ac yna dychwelyd i Samaria.