11 Galwodd y proffwyd Eseia ar yr ARGLWYDD, a gwnaeth yntau i'r cysgod fynd yn ei ôl ddeg gris, lle'r arferai fynd i lawr ar risiau Ahas.
12 Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael.
13 Croesawodd Heseceia hwy a dangos iddynt ei drysordy i gyd, yr arian a'r aur, a'r perlysiau a'r olew persawrus, a'i arfdy a phopeth oedd yn ei storfeydd. Nid oedd dim yn ei balas na'i deyrnas na ddangosodd Heseceia iddynt.
14 Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, “Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?” Atebodd Heseceia, “O wlad bell, o Fabilon y daethant.”
15 Yna holodd, “Beth a welsant yn dy dŷ?” Dywedodd Heseceia, “Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysorfa nad wyf wedi ei ddangos iddynt.”
16 Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air yr ARGLWYDD:
17 ‘Wele'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.