15 Yna holodd, “Beth a welsant yn dy dŷ?” Dywedodd Heseceia, “Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysorfa nad wyf wedi ei ddangos iddynt.”
16 Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air yr ARGLWYDD:
17 ‘Wele'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.
18 Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, had dy gorff, a byddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.”
19 Atebodd Heseceia, “o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru.” Meddyliai, “Oni fydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i?”
20 Am weddill hanes Heseceia, a'i holl wrhydri, ac fel y gwnaeth gronfa ddŵr a'r ffos a ddôi â dŵr i'r ddinas, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
21 Bu farw Heseceia, a daeth Manasse yn frenin yn ei le.