5 “Dos yn ôl, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iacháu. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml.
6 Ychwanegaf bymtheng mlynedd at dy oes, a gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”
7 Yna dywedodd Eseia wrthynt, “Cymerwch bowltis ffigys.” Ac wedi iddynt wneud hynny a'i osod ar y cornwyd, fe wellodd.
8 Gofynnodd Heseceia i Eseia, “Beth yw'r arwydd y bydd yn fy iacháu, ac yr af i fyny i'r deml ymhen tridiau?”
9 Dywedodd Eseia, “Dyma fydd yr arwydd iti oddi wrth yr ARGLWYDD y bydd yn cyflawni'r hyn a ddywedodd: bydd y cysgod yn symud ddeg gris ymlaen neu ddeg gris yn ôl.”
10 Dywedodd Heseceia, “Y mae'n haws i'r cysgod symud ymlaen ddeg gris; na, aed y cysgod yn ôl ddeg gris.”
11 Galwodd y proffwyd Eseia ar yr ARGLWYDD, a gwnaeth yntau i'r cysgod fynd yn ei ôl ddeg gris, lle'r arferai fynd i lawr ar risiau Ahas.