1 Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un ar ddeg ar hugain o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jedida merch Adaia o Boscath oedd enw ei fam.
2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
3 Yn ei ddeunawfed flwyddyn anfonodd y Brenin Joseia ei ysgrifennydd Saffan fab Asaleia, fab Mesulam, i dŷ'r ARGLWYDD a dweud,
4 “Dos at Hilceia yr archoffeiriad, er mwyn iddo gyfrif yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD ac a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl, i'w trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am dŷ'r ARGLWYDD.