6 i gael seiri ac adeiladwyr a seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd i atgyweirio'r tŷ.
7 Ond nid ydynt i roi cyfrif o'r arian a roddir i'w gofal, am eu bod yn gweithredu'n onest.”
8 Dywedodd yr archoffeiriad Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan i'w ddarllen.
9 Yna aeth Saffan yr ysgrifennydd yn ôl at y brenin, a dwyn adroddiad iddo, a dweud, “Y mae dy weision wedi cyfrif yr arian oedd yn y deml, ac wedi eu trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am dŷ'r ARGLWYDD.”
10 Ac ychwanegodd, “Fe roddodd yr offeiriad Hilceia lyfr imi.” Yna darllenodd Saffan ef i'r brenin.
11 Pan glywodd y brenin gynnwys llyfr y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,
12 a gorchmynnodd i'r offeiriad Hilceia, ac i Ahicam fab Saffan, ac i Achbor fab Michaia, ac i'r ysgrifennydd Saffan, ac i Asaia gwas y brenin,