14 Drylliodd y colofnau, a thorri i lawr y prennau Asera a llenwi eu cysegrleoedd ag esgyrn dynol.
15 Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.
16 Wrth droi ymaith, sylwodd Joseia ar y fynwent oedd yno ar y mynydd, ac anfonodd a chymryd esgyrn o'r beddau a'u llosgi ar yr allor a'i halogi, a hynny'n cyflawni gair yr ARGLWYDD, a gyhoeddodd gŵr Duw pan ragfynegodd y pethau hyn.
17 Wedyn gofynnodd, “Beth yw'r gofeb acw a welaf?” Atebodd pobl y ddinas ef, “Dyna fedd gŵr Duw, a ddaeth o Jwda a rhagfynegi'r pethau hyn yr wyt ti wedi eu gwneud ag allor Bethel.”
18 Yna dywedodd wrthynt am adael llonydd iddo ac nad oedd neb i ymyrryd â'i esgyrn. Felly arbedwyd ei esgyrn, a hefyd esgyrn y proffwyd a ddaeth o Samaria.
19 Yn nhrefi Samaria dinistriodd Joseia holl demlau'r uchelfeydd a wnaeth brenhinoedd Israel i ddigio'r ARGLWYDD. Gwnaeth iddynt yno yn hollol fel y gwnaeth ym Methel.
20 Lladdodd ar yr allorau bob un o offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, a llosgi esgyrn dynol arnynt cyn dychwelyd i Jerwsalem.