28 Am weddill hanes Joseia, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
29 Yn ei ddyddiau ef daeth Pharo Necho brenin yr Aifft at afon Ewffrates, at frenin Asyria; a phan aeth Joseia allan yn ei erbyn, lladdodd Necho ef yn Megido, pan welodd ef.
30 Cludodd ei weision ef yn farw o Megido, a'i ddwyn i Jerwsalem a'i gladdu yn ei feddrod. Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.
31 Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam.
32 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.
33 Carcharodd Pharo Necho ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, rhag iddo fod yn frenin yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur.
34 Gwnaeth Eliacim fab Joseia yn frenin yn lle ei dad Joseia, a newid ei enw i Jehoiacim. Cymerodd Jehoahas i lawr i'r Aifft, lle bu farw.