4 Yna gorchmynnodd y brenin i'r archoffeiriad Hilceia, a'r is-offeiriaid, a cheidwaid y drws symud allan o deml yr ARGLWYDD yr holl offer a wnaed ar gyfer Baal ac Asera a holl lu'r nef; a llosgwyd hwy y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a mynd â'u llwch i Fethel.
5 Diswyddodd yr offeiriaid gau a osododd brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd yn nhrefi Jwda a chyffiniau Jerwsalem, a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal a'r haul a'r lloer a'r planedau a holl lu'r nef.
6 Dygodd byst Asera allan o dŷ'r ARGLWYDD i lawr i nant Cidron y tu allan i Jerwsalem, a'i llosgi yno, a'i malu'n llwch a thaenu'r llwch yn y fynwent gyffredin.
7 Bwriodd i lawr dai puteinwyr y cysegr oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, lle'r oedd gwragedd yn gweu gwisgoedd ar gyfer delw Asera.
8 Symudodd yr holl offeiriaid o drefi Jwda, a halogodd yr uchelfeydd lle bu'r offeiriaid yn arogldarthu, o Geba hyd Beerseba. Tynnodd i lawr uchelfeydd y pyrth oedd wrth borth Josua pennaeth y ddinas, ar y chwith i borth y ddinas.
9 Eto ni ddôi offeiriaid yr uchelfeydd i fyny at allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ond bwyta bara croyw ymhlith eu brodyr.
10 Halogodd y Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab na'i ferch i Moloch.