10 Drylliwyd y mur o amgylch Jerwsalem gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda chapten y gwarchodlu.
11 Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr.
12 Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr.
13 Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trolïau a'r môr pres oedd yn y deml, a mynd â'r pres i Fabilon,
14 a chymryd y crochanau a'r rhawiau a'r saltringau a'r llwyau a'r offer pres i gyd a ddefnyddid yn y gwasanaethau.
15 Ond cymerodd capten y gwarchodlu feddiant o'r padellau tân a'r cawgiau oedd o aur ac arian pur.
16 Ac am y ddwy golofn bres a'r môr a'r trolïau a wnaeth Solomon i dŷ'r ARGLWYDD, nid oedd yn bosibl pwyso'r pres yn yr offer hyn.