7 Lladdasant feibion Sedeceia o flaen ei lygaid, ac yna tynnu allan ei lygaid a'i roi mewn cadwynau a'i ddwyn i Fabilon.
8 Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem.
9 Rhoddodd dŷ'r ARGLWYDD a phalas y brenin ar dân, a llosgi hefyd bob tŷ o faint yn Jerwsalem.
10 Drylliwyd y mur o amgylch Jerwsalem gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda chapten y gwarchodlu.
11 Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr.
12 Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr.
13 Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trolïau a'r môr pres oedd yn y deml, a mynd â'r pres i Fabilon,