2 Teyrnasodd am ddeuddeng mlynedd, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad cymaint â'i dad a'i fam, oherwydd bwriodd allan y golofn Baal a wnaeth ei dad.
3 Ond glynodd yn ddiwyro wrth bechod Jeroboam fab Nebat, yr un a barodd i Israel bechu.
4 Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.
5 Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.
6 Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel.
7 Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.”
8 A holodd, “Pa ffordd yr awn ni?” Atebodd yntau, “Ffordd anialwch Edom.”