20 Ac yn y bore, tuag adeg offrymu'r aberth, gwelwyd dyfroedd yn llifo o gyfeiriad Edom ac yn llenwi'r tir.
21 Pan glywodd pobl Moab fod y brenhinoedd wedi dod i ryfel yn eu herbyn, galwyd i'r gad bob un oedd yn ddigon hen i drin arfau; ac yr oeddent yn sefyll ar y goror.
22 Wedi iddynt godi yn y bore, yr oedd yr haul yn tywynnu ar y dŵr, a'r Moabiaid yn gweld y dŵr o'u blaenau yn goch fel gwaed.
23 Ac meddent, “Gwaed yw hwn; y mae'r brenhinoedd wedi ymladd â'i gilydd, a'r naill wedi lladd y llall; ac yn awr, Moab, at yr anrhaith!”
24 Ond pan ddaethant at wersyll Israel, cododd yr Israeliaid a tharo Moab; ffodd y Moabiaid o'u blaenau, a hwythau'n dal i'w hymlid a'u taro.
25 Yna aethant i ddistrywio'r dinasoedd, a thaflu bawb ei garreg a llenwi pob darn o dir da, a chau pob ffynnon ddŵr, a chwympo pob pren teg, nes gadael dim ond Cir-hareseth; ac amgylchodd y ffon-daflwyr hi, a'i tharo hithau.
26 Pan welodd brenin Moab fod y frwydr yn drech nag ef, cymerodd gydag ef saith gant o wŷr cleddyf i ruthro ar frenin Edom, ond methodd.