5 Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.
6 Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel.
7 Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.”
8 A holodd, “Pa ffordd yr awn ni?” Atebodd yntau, “Ffordd anialwch Edom.”
9 Felly aeth brenin Israel, brenin Jwda, a brenin Edom ar daith gylch o saith diwrnod, ac nid oedd dŵr i'r fyddin nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn.
10 Ac meddai brenin Israel, “Och bod yr ARGLWYDD wedi galw'r tri brenin hyn allan i'w rhoi yn llaw brenin Moab!”
11 Yna dywedodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn â'r ARGLWYDD drwyddo?” Atebodd un o weision brenin Israel, “Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt dŵr dros ddwylo Elias, yma.”