14 Ar hynny fe aeth i lawr, ac ymdrochi saith waith yn yr Iorddonen yn ôl gair gŵr Duw, a daeth ei gnawd yn lân eto fel cnawd bachgen bach.
15 Yna dychwelodd ef a'i holl fintai at ŵr Duw, a sefyll o'i flaen a dweud, “Dyma fi'n gwybod yn awr nad oes Duw mewn un wlad ond yn Israel; felly, derbyn yn awr anrheg oddi wrth dy was.”
16 Atebodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD a wasanaethaf yn fyw, ni chymeraf ddim.”
17 Ac er pwyso arno i gymryd, gwrthod a wnaeth. Dywedodd Naaman, “Os na chymeri, ynteu, rhodder llwyth cwpl o fulod o bridd i mi, dy was, gan na fyddaf ar ôl hyn yn offrymu poethoffrwm nac aberth i'r un duw arall ond i'r ARGLWYDD.
18 Ond yn unig—maddeued yr ARGLWYDD imi—pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn.”
19 Dywedodd Eliseus wrtho, “Heddwch iti.”Pan oedd wedi mynd ychydig o ffordd,
20 meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, “Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”