18 Ond yn unig—maddeued yr ARGLWYDD imi—pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn.”
19 Dywedodd Eliseus wrtho, “Heddwch iti.”Pan oedd wedi mynd ychydig o ffordd,
20 meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, “Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”
21 Rhedodd ar ôl Naaman, a phan welodd Naaman ef yn rhedeg, disgynnodd o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “A yw popeth yn iawn?”
22 “Ydyw, yn iawn,” meddai yntau, “fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal â rhoi iddynt dalent o arian a dau bâr o ddillad.”
23 Atebodd Naaman, “Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent.” Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau bâr o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen.
24 Pan ddaethant at y bonc, cymerodd Gehasi hwy o'u llaw a'u rhoi i gadw, ac yna anfonodd y gweision yn ôl.