25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, yn frenin.
26 Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel.
27 Dilynodd yr un llwybr â thŷ Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i dŷ Ahab.
28 Aeth gyda Joram fab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead, ac anafodd y Syriaid Joram.
29 Ciliodd y Brenin Joram i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.