6 Holodd y brenin hi, ac adroddodd hithau'r hanes wrtho. Yna penododd y brenin swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho'n ôl iddi ei heiddo i gyd, a chynnyrch y tir hefyd o'r diwrnod y gadawodd y wlad hyd heddiw.”
7 Daeth Eliseus i Ddamascus. Yr oedd Ben-hadad brenin Syria yn glaf, a dywedwyd wrtho fod gŵr Duw wedi cyrraedd.
8 Yna dywedodd y brenin wrth Hasael, “Cymer rodd gyda thi, a dos at ŵr Duw i ymofyn â'r ARGLWYDD, a fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn.”
9 Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar ôl cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, “Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, ‘A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?’ ”
10 Atebodd Eliseus, “Dos a dweud wrtho, ‘Rwyt yn sicr o wella.’ Ond y mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd yn sicr o farw.”
11 A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gŵr Duw.
12 Gofynnodd Hasael, “Pam y mae f'arglwydd yn wylo?” Atebodd, “Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tân i'w caerau a lladd eu hieuenctid â'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog.”