4 Dywedodd Dafydd wrtho, “Dywed wrthyf sut y bu pethau.” Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.
5 Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, “Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?”
6 Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, “Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano.
7 Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. ‘Dyma fi,’ meddwn innau.
8 Gofynnodd i mi, ‘Pwy wyt ti?’ Atebais innau, ‘Amaleciad.’
9 Yna dywedodd wrthyf, ‘Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.’
10 Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd.”