2 Samuel 23 BCN

Geiriau Olaf Dafydd

1 Dyma eiriau olaf Dafydd:“Oracl Dafydd fab Jesse,ie, oracl y gŵr a godwyd yn uchel,eneiniog Duw Jacob,canwr caneuon Israel.

2 “Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof,a'i air ef oedd ar fy nhafod.

3 Llefarodd Duw Jacob,dywedodd craig Israel wrthyf:‘Y mae'r sawl sy'n llywodraethu pobl yn gyfiawn,yn llywodraethu yn ofn Duw,

4 fel goleuni bore pan gyfyd haular fore digwmwl,a pheri i'r gwellt ddisgleirio o'r ddaearar ôl glaw.’

5 “Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw?Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol â mi,un trefnus ym mhob cymal, a diogel.Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad;oni rydd lwyddiant i mi?

6 ‘Y mae'r dihirod i gyd fel drain a dorrir i lawr,am na ellir eu casglu â llaw.

7 Nid oes neb yn eu cyffwrddond â haearn neu goes gwaywffon,a'u llosgi'n llwyr yn y man lle maent.’ ”

Milwyr Enwog Dafydd

8 Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro.

9 Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.

10 Safodd ei dir ac ymladd â'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn ôl at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig.

11 Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;

12 ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.

13 Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

14 Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.

15 Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem sydd ger y porth!”

16 Ar hynny rhuthrodd y Tri Gwron trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,

17 a dweud, “Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?” A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.

18 Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.

19 Ef yn wir oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, a bu'n gapten arnynt; ond nid oedd ymysg y Tri.

20 Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr, aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.

21 Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.

22 Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.

23 Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

24 Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem,

25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

26 Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad,

27 Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28 Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

29 Heleb fab Baana y Netoffathiad, Itai fab Ribai o Gibea meibion Benjamin,

30 Benaia y Pirathoniad, Hidai o Nahale-gaas,

31 Abialbon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,

32 Eliahba y Saalboniad, Jasen y Nuniad, Jonathan fab

33 Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad,

34 Eliffelet fab Ahasbai, mab y Naachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad,

35 Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,

36 Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,

37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),

38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

39 Ureia yr Hethiad. Tri deg a saith i gyd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24