2 Samuel 16 BCN

Dafydd a Siba

1 Wedi i Ddafydd fynd ychydig heibio i gopa'r mynydd, dyma Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth o fara, can swp o rawnwin, cant o ffrwythau haf a photel o win.

2 Dywedodd y brenin wrth Siba, “Beth yw'r rhain sydd gennyt?” Atebodd Siba, “Y mae'r asynnod ar gyfer teulu'r brenin i'w marchogaeth, y bara a'r ffrwythau i'r bechgyn i'w bwyta, a'r gwin i'w yfed gan unrhyw un fydd yn lluddedig yn yr anialwch.”

3 Holodd y brenin, “Ond ymhle y mae ŵyr dy feistr?” Atebodd Siba, “Y mae ef wedi aros yn Jerwsalem, oblegid y mae'n meddwl y bydd yr Israeliaid yn awr yn dychwelyd teyrnas ei daid iddo.”

4 Dywedodd y brenin wrth Siba, “Edrych, ti biau bopeth sydd gan Meffiboseth.” Atebodd Siba, “Yr wyf yn ymostwng o'th flaen; bydded imi gael ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin.”

Dafydd a Simei

5 Pan gyrhaeddodd Dafydd Bahurim, dyma ddyn o dylwyth Saul, o'r enw Simei fab Gera, yn dod allan oddi yno dan felltithio.

6 Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo.

7 Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: “Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn;

8 y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti.”

9 Dywedodd Abisai fab Serfia wrth y brenin, “Pam y dylai'r ci marw hwn gael melltithio f'arglwydd frenin? Gad imi fynd ato a thorri ei ben i ffwrdd.”

10 Ond meddai'r brenin, “Beth sydd a wnelo hyn â mi neu â chwi, feibion Serfia? Y mae ef yn melltithio fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am felltithio Dafydd, a phwy sydd i ofyn, ‘Pam y gwnaethost hyn?’ ”

11 Ychwanegodd Dafydd wrth Abisai a'i holl weision. “Edrychwch, y mae fy mab i fy hun yn ceisio fy mywyd; pa faint mwy y Benjaminiad hwn?

12 Gadewch iddo felltithio, oherwydd yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho. Efallai y bydd yr ARGLWYDD yn edrych ar fy nghyni, ac yn gwneud daioni imi yn lle ei felltith ef heddiw.”

13 Yna, tra oedd Dafydd a'i filwyr yn mynd ar hyd y ffordd, yr oedd Simei yn mynd ar hyd ochr y mynydd gyferbyn ag ef, yn melltithio ac yn lluchio cerrig ac yn taflu pridd ato.

14 Erbyn iddynt gyrraedd yr Iorddonen yr oedd y brenin a'r holl bobl oedd gydag ef yn lluddedig, felly cymerasant seibiant yno.

Absalom yn Jerwsalem

15 Yr oedd Absalom a'r holl fyddin o Israeliaid wedi cyrraedd Jerwsalem, ac Ahitoffel gyda hwy.

16 Yna, pan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom a dweud wrtho, “Byw fyddo'r brenin, byw fyddo'r brenin!”

17 Gofynnodd Absalom i Husai, “Ai dyma dy deyrngarwch i'th gyfaill? Pam nad aethost ti gyda'th gyfaill?”

18 Ac meddai Husai wrth Absalom, “O na, yr wyf fi o blaid yr un a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD, a'r bobl hyn a'r holl Israeliaid, a chydag ef yr arhosaf.

19 Ac at hynny, pwy a ddylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Fel y bûm yn gwasanaethu dy dad, felly y byddaf gyda thi.”

20 Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, “Rho gyngor inni beth i'w wneud.”

21 Atebodd Ahitoffel, “Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad a adawodd ef i ofalu am y tŷ; a phan fydd Israel gyfan yn clywed dy fod wedi dy ffieiddio gan dy dad, fe gryfheir dwylo pawb sydd gyda thi.”

22 Taenwyd pabell i Absalom ar y to, ac aeth yntau i mewn at ordderchwragedd ei dad yng ngolwg Israel gyfan.

23 Yr oedd y cyngor a roddai Ahitoffel yn y dyddiau hynny fel pe bai rhywun yn ymofyn cyfarwyddyd gan Dduw; felly'r ystyrid ef gan Ddafydd ac Absalom hefyd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24