2 Samuel 22 BCN

Cân Buddugoliaeth Dafydd

1 Llefarodd Dafydd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion ac o law Saul,

2 a dywedodd:“Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;

3 fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer,fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais.

4 “Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl,ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.

5 Pan oedd tonnau angau yn f'amgylchynua llifeiriant distryw yn fy nal,

6 pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchua maglau angau o'm blaen,

7 gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.

8 “Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r nefoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.

9 Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.

10 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.

11 Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.

12 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell,a chymylau duon yn orchudd.

13 O'r disgleirdeb o'i flaentasgodd cerrig tân.

14 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.

15 Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.

16 Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.

17 “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

19 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.

20 Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.

21 “Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.

22 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

23 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

24 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.

25 Talodd yr ARGLWYDD imi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.

26 Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,

27 ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.

28 Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.

29 Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

30 Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

31 Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

32 “Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?A phwy sydd graig ond ein Duw ni?

33 Duw yw fy nghaer gadarn,sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.

34 Gwna fy nhraed fel rhai ewig,a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

35 Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.

36 Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

37 Rhoist imi le llydan i'm camau,ac ni lithrodd fy nhraed.

38 Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio;ni ddychwelaf nes eu difetha.

39 Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio dan fy nhraed.

40 Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,a darostwng fy ngelynion danaf.

41 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.

42 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.

43 Fe'u maluriaf cyn faned â llwch y ddaear,a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.

44 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.

45 Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen,pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi.

46 Y mae estroniaid yn gwangalonni,ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.

47 “Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig,dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,

48 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd danaf,

49 sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.

50 Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,a chanaf fawl i'th enw.

51 Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaethac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,i Ddafydd ac i'w had am byth.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24