2 Samuel 13 BCN

Amnon a Tamar

1 Yr oedd gan Absalom fab Dafydd chwaer brydferth o'r enw Tamar, a syrthiodd Amnon, un arall o feibion Dafydd, mewn cariad â hi.

2 Poenodd Amnon nes ei fod yn glaf o achos ei chwaer Tamar; oherwydd yr oedd hi yn wyryf, ac nid oedd yn bosibl yng ngolwg Amnon iddo wneud dim iddi.

3 Ond yr oedd ganddo gyfaill o'r enw Jonadab, mab Simea brawd Dafydd, ac yr oedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.

4 Gofynnodd hwn iddo, “Pam yr wyt ti'n nychu fel hyn o ddydd i ddydd, O fab y brenin? Oni ddywedi di wrthyf?” Atebodd Amnon, “Yr wyf mewn cariad â Tamar, chwaer fy mrawd Absalom.”

5 Yna dywedodd Jonadab wrtho, “Gorwedd ar dy wely a chymer arnat dy fod yn glaf; a phan ddaw dy dad i'th weld, dywed wrtho, ‘Gad i'm chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi, a pharatoi'r bwyd yn fy ngolwg, er mwyn i mi gael gweld a bwyta o'i llaw hi.’ ”

6 Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, “Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw.”

7 Anfonodd Dafydd at Tamar i'r palas a dweud, “Dos yn awr i dŷ dy frawd Amnon a pharatoa fwyd iddo.”

8 Fe aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, ac yntau yn ei wely; cymerodd does, a'i dylino a gwneud teisennau bach o flaen ei lygaid, a'u crasu.

9 Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan.

10 Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law.” Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratôdd, a mynd â hwy at Amnon ei brawd i'r siambr;

11 ond pan gynigiodd hwy iddo i'w bwyta, ymaflodd ynddi, a dweud wrthi, “Tyrd, fy chwaer, gorwedd gyda mi.”

12 Dywedodd hithau wrtho, “Na, fy mrawd, paid â'm treisio, oherwydd ni wneir fel hyn yn Israel; paid â gwneud peth mor ffôl.

13 Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd â'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti.”

14 Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi.

15 Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, “Cod a dos.”

16 Dywedodd hithau, “Na, oherwydd y mae fy ngyrru i ffwrdd yn waeth cam na'r llall a wnaethost â mi.” Ni fynnai ef wrando arni,

17 ond galwodd am y llanc oedd yn gweini arno, a dweud, “Gyrrwch hon i ffwrdd oddi wrthyf, a chloi'r drws ar ei hôl.”

18 Yr oedd ganddi fantell amryliw amdani, oherwydd dyna sut yr arferai tywysogesau dibriod wisgo. Pan drodd ei was hi allan a chloi'r drws ar ei hôl,

19 taflodd Tamar ludw drosti ei hun, rhwygo'i mantell amryliw, gosod ei llaw ar ei phen, a mynd allan gan lefain.

20 Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, “Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid â phoeni'n ormodol am hyn.” Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom.

21 Pan glywodd y brenin Dafydd am hyn i gyd, bu'n ddig iawn, ond ni wastrododd ei fab Amnon, am ei fod yn ei garu, oherwydd ef oedd ei gyntafanedig.

22 Ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon na drwg na da; ond yr oedd Absalom yn casáu Amnon am iddo dreisio ei chwaer Tamar.

Dial Absalom

23 Ymhen dwy flynedd yr oedd yn ddiwrnod cneifio gan Absalom yn Baal-hasor ger Effraim, ac fe estynnodd wahoddiad i holl feibion y brenin.

24 Aeth Absalom at y brenin hefyd, a dweud, “Edrych, y mae gan dy was ddiwrnod cneifio; doed y brenin a'i weision yno gyda'th was.”

25 Ond meddai'r brenin wrth Absalom, “Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat.” Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo.

26 Yna dywedodd Absalom, “Os na ddoi di, gad i'm brawd Amnon ddod gyda ni.” Gofynnodd y brenin, “Pam y dylai ef fynd gyda thi?”

27 Ond wedi i Absalom grefu arno, fe anfonodd gydag ef Amnon a holl feibion y brenin.

28 Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, “Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, ‘Tarwch Amnon’, yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr.”

29 Gwnaeth y llanciau i Amnon yn ôl gorchymyn Absalom, a neidiodd holl feibion y brenin ar gefn eu mulod a ffoi.

30 Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt.

31 Cododd y brenin a rhwygo'i ddillad; yna gorweddodd ar lawr, a'i holl weision yn sefyll o'i gwmpas â'u dillad wedi eu rhwygo.

32 Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, “Peidied f'arglwydd â meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar.

33 Peidied f'arglwydd yn awr â chymryd y peth at ei galon, fel petai holl feibion y brenin wedi marw; Amnon yn unig sy'n farw,

34 ac y mae Absalom wedi ffoi.” Fel yr oedd y llanc oedd ar wyliadwriaeth yn edrych allan, gwelodd dwr o bobl yn dod i lawr o gyfeiriad Horonaim. Aeth y gwyliwr a dweud wrth y brenin ei fod wedi gweld dynion yn dod o gyfeiriad Horonaim ar hyd ochr y mynydd.

35 Dywedodd Jonadab wrth y brenin, “Dacw feibion y brenin yn dod. Y mae wedi digwydd fel y dywedodd dy was.”

36 Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw.

37 Ffodd Absalom, a mynd at Talmai fab Ammihur brenin Gesur; ac yr oedd Dafydd yn parhau i alaru ar ôl ei fab.

38 Wedi i Absalom ffoi a chyrraedd Gesur, arhosodd yno am dair blynedd.

39 Yna cododd hiraeth ar y Brenin Dafydd am Absalom, unwaith yr oedd wedi ei gysuro am farwolaeth Amnon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24