10 Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.
11 A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ond os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.
12 Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg.”
13 Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen.
14 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai, a mynd i'r ddinas. Gadawodd Joab ei gyrch yn erbyn yr Ammoniaid, a dychwelodd i Jerwsalem.
15 Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, daethant at ei gilydd eto,
16 ac anfonodd Hadadeser i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates hefyd. Daethant ynghyd i Helam, gyda Sobach, pencapten Hadadeser, yn eu harwain.