15 Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, “Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw.”
16 Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr.
17 A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.
18 Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd.
19 Gorchmynnodd i'r negesydd, “Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin,
20 yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: ‘Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur?
21 Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?’—yna dywed tithau, ‘Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw’.”