17 A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.
18 Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd.
19 Gorchmynnodd i'r negesydd, “Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin,
20 yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: ‘Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur?
21 Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?’—yna dywed tithau, ‘Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw’.”
22 Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud.
23 Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, “Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth,