11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n codi yn dy erbyn ddrwg o blith dy deulu dy hun; o flaen dy lygad cymeraf dy wragedd a'u rhoi i'th gymydog, a bydd ef yn gorwedd gyda'th wragedd di yn llygad yr haul hwn.
12 Yn llechwraidd y gweithredaist ti, ond fe wnaf fi'r peth hwn yng ngŵydd Israel gyfan ac yn wyneb haul.’ ”
13 Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD yntau wedi troi dy bechod heibio; ni fyddi farw.
14 Ond oherwydd iti lwyr ddiystyru'r ARGLWYDD yn y mater hwn, yn ddios bydd farw y bachgen a enir iti.”
15 Wedi i Nathan fynd adref, trawodd yr ARGLWYDD y plentyn a ymddûg gwraig Ureia i Ddafydd, a chlafychodd.
16 Ymbiliodd Dafydd â Duw dros y bachgen; ymprydiodd, a mynd a threulio'r nos yn gorwedd ar lawr.
17 Pan geisiodd henuriaid ei dŷ ei godi oddi ar lawr, ni fynnai godi ac ni fwytâi fara gyda hwy.