26 Ymosododd Joab ar Rabba'r Ammoniaid, a chipiodd ddinas y brenin.
27 Anfonodd Joab negeswyr at Ddafydd a dweud, “Yr wyf wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio'r gronfa ddŵr.
28 Yn awr, casgla weddill y fyddin a gwersylla yn erbyn y ddinas a'i hennill, rhag i mi gipio'r ddinas ac iddi gael ei galw ar f'enw i.”
29 Casglodd Dafydd y fyddin gyfan, ac aeth i Rabba ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill.
30 Cymerodd goron eu brenin oddi ar ei ben—yr oedd yn pwyso talent o aur, a gem gwerthfawr ynddi—a rhoed hi ar ben Dafydd. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail,
31 ac aeth â'r bobl oedd ynddi a'u gosod i lafurio â llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill heyrn, a hefyd i weithio priddfeini. Gwnaeth Dafydd yr un modd â holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.