3 ond nid oedd dim gan yr un tlawd, ar wahân i un oenig fechan yr oedd wedi ei phrynu a'i magu, a thyfodd i fyny ar ei aelwyd gyda'i blant, yn bwyta o'r un tamaid ag ef, yn yfed o'r un cwpan, ac yn cysgu yn ei gôl; yr oedd fel merch iddo.
4 Pan ddaeth ymwelydd at y dyn cyfoethog, gofalodd hwnnw beidio â chymryd yr un o'i ddefaid na'i ychen ei hun i wneud pryd i'r teithiwr oedd wedi cyrraedd, yn hytrach fe gymerodd oenig y dyn tlawd a'i pharatoi ar gyfer y sawl a ddaeth ato.”
5 Enynnodd dig Dafydd yn fawr yn erbyn y dyn, a dywedodd wrth Nathan, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, y mae'r dyn a wnaeth hyn yn haeddu marw!
6 Rhaid iddo dalu'r oen yn ôl bedair gwaith am wneud y fath beth ac am beidio â dangos trugaredd.”
7 Dywedodd Nathan wrth Ddafydd, “Ti yw'r dyn. Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel, ‘Fe'th eneiniais di yn frenin ar Israel, ac fe'th waredais o law Saul;
8 rhois iti dŷ dy feistr a gwragedd dy feistr yn dy fynwes, a rhois iti hefyd dŷ Israel a Jwda. A phe buasai hynny'n rhy ychydig, buaswn wedi ychwanegu cymaint eto.
9 Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad â'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef â chleddyf yr Ammoniaid.