3 a dof â'r holl bobl yn ôl atat fel priodferch yn dod adref at ei phriod. Bywyd un yn unig sydd arnat ei eisiau; caiff gweddill y bobl lonydd.”
4 Yr oedd Absalom a holl henuriaid Israel yn gweld hwn yn gyngor da,
5 ond dywedodd Absalom, “Galwch Husai yr Arciad hefyd er mwyn inni glywed beth sydd ganddo yntau i'w ddweud.”
6 Wedi i Husai gyrraedd, dywedodd Absalom wrtho, “Dyma sut y cynghorodd Ahitoffel. A ddylem dderbyn ei gyngor? Onid e, rho di dy gyngor.”
7 Dywedodd Husai wrth Absalom, “Nid yw'r cyngor a roddodd Ahitoffel y tro hwn yn un da.”
8 Aeth Husai ymlaen, “Yr wyt ti'n adnabod dy dad a'i ddynion: y maent yn filwyr profiadol, ac mor filain ag arth wyllt wedi ei hamddifadu o'i chenawon; hefyd, y mae dy dad yn gynefin â rhyfela, ni fydd ef yn treulio'r nos gyda'r fyddin, ac y mae eisoes wedi ymguddio mewn ogof neu ryw lecyn arall.
9 Pan leddir rhywrai o blith dy filwyr ar y dechrau, bydd pwy bynnag a fydd yn clywed y newydd yn meddwl bod cyflafan wedi digwydd ymysg y rhai sy'n dilyn Absalom.