1 Rhestrodd Dafydd y bobl oedd gydag ef, a phenodi capteiniaid ar filoedd a chapteiniaid ar gannoedd.
2 Yna rhannodd y fyddin yn dair, traean o dan Joab, traean dan Abisai fab Serfia, brawd Joab, a thraean dan Itai y Gethiad; a dywedodd y brenin wrth y fyddin, “Mi ddof finnau hefyd gyda chwi.”
3 Ond atebasant, “Ni chei di ddod. Petaem ni yn ffoi am ein heinioes, ni fyddai neb yn meddwl dim o'r peth; a phetai ein hanner yn marw, ni fyddai neb yn malio amdanom; ond yr wyt ti cystal â deng mil ohonom ni. Felly'n awr y mae'n well i ni dy fod yn aros i'n cynorthwyo o'r ddinas.”
4 Dywedodd y brenin y gwnâi'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd.
5 Gorchmynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, “Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom.” Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglŷn ag Absalom.