13 Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr.”
14 Atebodd Joab, “Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi.” Cymerodd dair picell yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen.
15 Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.
16 Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n ôl.
17 Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.
18 Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, “Oherwydd,” meddai, “nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof.” Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.
19 Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, “Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion.”