15 Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.
16 Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n ôl.
17 Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.
18 Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, “Oherwydd,” meddai, “nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof.” Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.
19 Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, “Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion.”
20 Ond dywedodd Joab wrtho, “Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd â'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw.”
21 Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, “Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist.” Moesymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.