19 Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, “Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion.”
20 Ond dywedodd Joab wrtho, “Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd â'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw.”
21 Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, “Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist.” Moesymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.
22 Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, “Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar ôl yr Ethiopiad.” Gofynnodd Joab, “Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges.”
23 Ond plediodd, “Sut bynnag y bydd, gad imi fynd.” Felly dywedodd wrtho, “Dos, ynteu.” Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.
24 Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.
25 Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, “Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges.”