24 Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.
25 Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, “Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges.”
26 Fel yr oedd yn dal i agosáu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, “Dacw ddyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun.” Dywedodd y brenin, “Negesydd yw hwn eto.”
27 Yna dywedodd y gwyliwr, “Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc.” Ac meddai'r brenin, “Dyn da yw hwnnw; daw ef â newyddion da,”
28 Pan gyrhaeddodd Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, “Heddwch!” Yna moesymgrymodd i'r brenin â'i wyneb i'r llawr, a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin.”
29 Gofynnodd y brenin, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Ac meddai Ahimaas, “Yr oedd dy was yn gweld cynnwrf mawr pan anfonodd Joab, gwas y brenin, fi i ffwrdd, ond ni wn beth oedd.”
30 Dywedodd y brenin, “Saf yma o'r neilltu.” Felly safodd o'r neilltu.