4 Dywedodd y brenin y gwnâi'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd.
5 Gorchmynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, “Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom.” Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglŷn ag Absalom.
6 Aeth y fyddin i'r maes i gyfarfod ag Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoetir Effraim.
7 Gorchfygwyd byddin Israel yno gan ddilynwyr Dafydd, a bu colledion mawr yno—ugain mil o fewn y diwrnod hwnnw.
8 Lledodd yr ymladd dros y wlad i gyd, a difaodd y goedwig fwy o'r fyddin nag a wnaeth y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9 Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen.
10 Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.