10 Ond y mae Absalom, a eneiniwyd gennym yn frenin, wedi marw yn y rhyfel; pam felly yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?”
11 Daeth dadleuon yr Israeliaid i gyd i glustiau'r brenin yn ei dŷ, ac anfonodd at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid, iddynt ddweud wrth henuriaid Jwda, “Pam yr ydych chwi'n oedi dod â'r brenin adref?
12 Chwi yw fy nhylwyth, fy asgwrn i a'm cnawd; pam yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?
13 Dywedwch wrth Amasa, ‘Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt tithau? Fel hyn y gwnelo Duw imi, a rhagor os nad ti o hyn ymlaen fydd capten y llu drosof yn lle Joab.’ ”
14 Enillodd galon holl wŷr Jwda'n unfryd, ac anfonasant neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a'th holl ddilynwyr.”
15 Daeth y brenin yn ôl, a phan gyrhaeddodd yr Iorddonen, yr oedd y Jwdeaid wedi cyrraedd Gilgal ar eu ffordd i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr Iorddonen.
16 Brysiodd Simei, mab Gera y Benjaminiad o Bahurim, i fynd i lawr gyda gwŷr Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd.