18 a chroesi'r rhyd i gario teulu'r brenin drosodd, er mwyn ennill ffafr yn ei olwg. Wedi i'r brenin groesi, syrthiodd Simei fab Gera o'i flaen
19 a dweud wrtho, “O f'arglwydd, paid â'm hystyried yn euog, a phaid â chofio ymddygiad gwarthus dy was y diwrnod y gadawodd f'arglwydd frenin Jerwsalem, na'i gadw mewn cof.
20 Oherwydd y mae dy was yn sylweddoli iddo bechu, ac am hynny dyma fi wedi dod yma heddiw, yn gyntaf o holl dŷ Joseff i ddod i lawr i gyfarfod f'arglwydd frenin.”
21 Ymateb Abisai fab Serfia oedd, “Oni ddylid rhoi Simei i farwolaeth am felltithio eneiniog yr ARGLWYDD?”
22 Ond dywedodd Dafydd, “Beth sydd a wneloch chwi â mi, O feibion Serfia, eich bod yn troi'n wrthwynebwyr imi heddiw? Ni chaiff neb yn Israel ei roi i farwolaeth heddiw, oherwydd oni wn i heddiw mai myfi sy'n frenin ar Israel?”
23 Dywedodd y brenin wrth Simei, “Ni fyddi farw.” A thyngodd y brenin hynny wrtho.
24 Hefyd fe ddaeth Meffiboseth, ŵyr Saul, i lawr i gyfarfod y brenin. Nid oedd wedi trin ei draed na'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod yr ymadawodd y brenin hyd y dydd y dychwelodd yn ddiogel.