26 Atebodd yntau, “O f'arglwydd frenin, fy ngwas a'm twyllodd i; yr oeddwn i wedi bwriadu cyfrwyo asyn a marchogaeth arno yng nghwmni'r brenin, am fy mod yn gloff.
27 Y mae fy ngwas wedi f'enllibio i wrth f'arglwydd frenin, ond y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw; gwna fel y gweli'n dda.
28 I'm harglwydd frenin nid oedd y cyfan o dylwyth fy nhad ond meirwon, ac eto gosodaist ti dy was ymhlith y rhai oedd yn cael bwyta wrth dy fwrdd; pa hawl bellach sydd gennyf i apelio eto at y brenin?”
29 Dywedodd y brenin wrtho, “Pam y dywedi ragor? Penderfynais dy fod ti a Siba i rannu'r ystad.”
30 Dywedodd Meffiboseth wrth y brenin, “Cymered ef y cwbl, gan fod f'arglwydd frenin wedi cyrraedd adref yn ddiogel.”
31 Daeth Barsilai y Gileadiad i lawr o Rogelim a mynd cyn belled â'r Iorddonen i hebrwng y brenin.
32 Yr oedd Barsilai yn hen iawn, yn bedwar ugain oed, ac ef oedd wedi cynnal y brenin tra oedd yn aros ym Mahanaim, oherwydd yr oedd yn ŵr cefnog iawn.