30 Dywedodd Meffiboseth wrth y brenin, “Cymered ef y cwbl, gan fod f'arglwydd frenin wedi cyrraedd adref yn ddiogel.”
31 Daeth Barsilai y Gileadiad i lawr o Rogelim a mynd cyn belled â'r Iorddonen i hebrwng y brenin.
32 Yr oedd Barsilai yn hen iawn, yn bedwar ugain oed, ac ef oedd wedi cynnal y brenin tra oedd yn aros ym Mahanaim, oherwydd yr oedd yn ŵr cefnog iawn.
33 Dywedodd y brenin wrth Barsilai, “Tyrd drosodd gyda mi, a chynhaliaf di tra byddi gyda mi yn Jerwsalem.”
34 Ond meddai Barsilai wrth y brenin, “Pa faint rhagor sydd gennyf i fyw, fel y down i fyny i Jerwsalem gyda'r brenin?
35 Yr wyf yn bedwar ugain oed erbyn hyn; ni allaf ddweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg; nid wyf yn medru blasu'r hyn yr wyf yn ei fwyta na'i yfed, na chlywed erbyn hyn leisiau cantorion a chantoresau. Pam y byddwn yn faich pellach ar f'arglwydd frenin?
36 Yn fuan iawn bydd dy was wedi hebrwng y brenin at yr Iorddonen; pam y dylai'r brenin roi'r fath dâl imi?