33 Dywedodd y brenin wrth Barsilai, “Tyrd drosodd gyda mi, a chynhaliaf di tra byddi gyda mi yn Jerwsalem.”
34 Ond meddai Barsilai wrth y brenin, “Pa faint rhagor sydd gennyf i fyw, fel y down i fyny i Jerwsalem gyda'r brenin?
35 Yr wyf yn bedwar ugain oed erbyn hyn; ni allaf ddweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg; nid wyf yn medru blasu'r hyn yr wyf yn ei fwyta na'i yfed, na chlywed erbyn hyn leisiau cantorion a chantoresau. Pam y byddwn yn faich pellach ar f'arglwydd frenin?
36 Yn fuan iawn bydd dy was wedi hebrwng y brenin at yr Iorddonen; pam y dylai'r brenin roi'r fath dâl imi?
37 Gad i'th was ddychwelyd, fel y caf farw yn fy ninas fy hun, gerllaw bedd fy nhad a'm mam. Ond dyma dy was Cimham, gad iddo ef groesi gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo ef fel y gweli'n dda.”
38 Dywedodd y brenin, “Fe gaiff Cimham fynd drosodd gyda mi, a gwnaf iddo fel y gweli di'n dda; a gwnaf i tithau beth bynnag a ddeisyfi gennyf.”
39 Croesodd yr holl bobl dros yr Iorddonen, tra oedd y brenin yn aros; yna cusanodd y brenin Barsilai, a'i fendithio, ac aeth yntau adref.