13 Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.
14 Ac meddai Abner wrth Joab, “Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau.” Cytunodd Joab.
15 Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd.
16 Cydiodd pob un ym mhen ei wrthwynebydd a thrywanu ei gleddyf i'w ystlys, a syrthiodd y cwbl gyda'i gilydd; am hynny galwyd y lle hwnnw sydd yn Gibeon yn Helcath-hasurim.
17 Bu brwydr galed iawn y diwrnod hwnnw, a threchwyd Abner fab Ner a'r Israeliaid gan ddilynwyr Dafydd.
18 Yr oedd tri mab Serfia yno, Joab, Abisai ac Asahel; ac yr oedd Asahel cyn gyflymed ei draed ag unrhyw ewig ar y ddôl.
19 Rhedodd Asahel ar ôl Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei ôl.