2 Felly fe aeth Dafydd i fyny yno, a'i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal, o Garmel;
3 hefyd fe aeth Dafydd â'r gwŷr oedd ganddo, bob un â'i deulu, a thrigo yn nhref Hebron.
4 Yna daeth gwŷr Jwda, ac eneinio Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda.Dywedwyd wrth Ddafydd mai gwŷr Jabes-gilead oedd wedi claddu Saul,
5 ac anfonodd Dafydd negeswyr atynt a dweud wrthynt, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch am ichwi wneud y gymwynas hon â'ch arglwydd Saul, a'i gladdu.
6 Ac yn awr bydded i'r ARGLWYDD ddangos caredigrwydd a ffyddlondeb atoch chwithau; a gwnaf finnau ddaioni i chwi, am ichwi wneud y peth hwn.
7 Byddwch gryf a dewr yn awr; y mae eich arglwydd Saul wedi marw, ond y mae tŷ Jwda wedi f'eneinio i yn frenin arnynt.”
8 Yr oedd Abner fab Ner, cadfridog Saul, wedi cymryd Isboseth fab Saul ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim.