9 Gwnaeth ef yn frenin dros Gilead, pobl Aser, Jesreel, Effraim a Benjamin, a thros Israel gyfan.
10 Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tŷ Jwda yn dilyn Dafydd.
11 Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar dŷ Jwda yn Hebron.
12 Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon.
13 Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.
14 Ac meddai Abner wrth Joab, “Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau.” Cytunodd Joab.
15 Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd.