1 Yr oedd yn digwydd bod yno ddihiryn o'r enw Seba fab Bichri, o lwyth Benjamin. Canodd ef yr utgorn a chyhoeddi,“Nid oes i ni gyfran yn Nafydd,nac etifeddiaeth ym mab Jesse.Pob un i'w babell, O Israel!”
2 Yna ciliodd yr Israeliaid oddi wrth Ddafydd, a dilyn Seba fab Bichri; ond glynodd y Jwdeaid wrth eu brenin bob cam, o'r Iorddonen i Jerwsalem.
3 Wedi i'r Brenin Dafydd gyrraedd Jerwsalem, cymerodd y deg gordderchwraig a adawyd i ofalu am y tŷ, a'u rhoi dan warchod; yr oedd yn rhoi eu cynhaliaeth iddynt, ond heb fynd i mewn atynt. A buont dan glo hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw fel gweddwon.
4 Yna dywedodd y brenin wrth Amasa, “Galw ynghyd ataf filwyr Jwda, a bydd yn ôl yma o fewn tridiau.”
5 Aeth Amasa i alw Jwda ynghyd, ond oedodd yn hwy na'r amser penodedig.
6 Ac meddai Dafydd wrth Abisai, “Yn awr bydd Seba fab Bichri yn creu mwy o helynt inni nag Absalom; cymer fy ngweision ac erlid ar ei ôl, rhag iddo gyrraedd dinasoedd caerog a diflannu o'n golwg.”
7 Dilynwyd Abisai gan Joab a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid a'r holl filwyr profiadol, a gadawsant Jerwsalem i erlid ar ôl Seba fab Bichri. Pan oeddent wrth y maen mawr yn Gibeon, daeth Amasa i'w cyfarfod.