11 Safodd un o lanciau Joab wrth y corff a dweud, “Pwy bynnag sy'n fodlon ar Joab, a phwy bynnag sydd o blaid Dafydd, canlynwch Joab.”
12 Yr oedd Amasa'n gorwedd yn bentwr gwaedlyd ar ganol yr heol, a phan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn sefyll, symudodd Amasa o'r heol i'r cae a bwrw dilledyn drosto.
13 Yr oedd pawb a ddôi heibio wedi bod yn sefyll wrth ei weld; ond wedi iddo gael ei symud o'r heol, yr oedd pawb yn dilyn Joab i erlid ar ôl Seba fab Bichri.
14 Aeth Seba trwy holl lwythau Israel nes cyrraedd Abel-beth-maacha, ac ymgasglodd yr holl Bichriaid a'i ddilyn.
15 Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.
16 Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, “Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef.”
17 Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, “Ai ti yw Joab?” “Ie,” meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, “Gwrando ar eiriau dy lawforwyn,” ac atebodd yntau, “Rwy'n gwrando.”