12 Yr oedd Amasa'n gorwedd yn bentwr gwaedlyd ar ganol yr heol, a phan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn sefyll, symudodd Amasa o'r heol i'r cae a bwrw dilledyn drosto.
13 Yr oedd pawb a ddôi heibio wedi bod yn sefyll wrth ei weld; ond wedi iddo gael ei symud o'r heol, yr oedd pawb yn dilyn Joab i erlid ar ôl Seba fab Bichri.
14 Aeth Seba trwy holl lwythau Israel nes cyrraedd Abel-beth-maacha, ac ymgasglodd yr holl Bichriaid a'i ddilyn.
15 Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.
16 Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, “Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef.”
17 Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, “Ai ti yw Joab?” “Ie,” meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, “Gwrando ar eiriau dy lawforwyn,” ac atebodd yntau, “Rwy'n gwrando.”
18 Ac meddai hi, “Byddent yn arfer dweud ers talwm, ‘Dim ond iddynt geisio cyngor yn Abel, a dyna ben ar y peth.’