19 Un o rai heddychol a ffyddlon Israel wyf fi, ond yr wyt ti'n ceisio distrywio dinas sy'n fam yn Israel. Pam yr wyt am ddifetha etifeddiaeth yr ARGLWYDD?”
20 Atebodd Joab a dweud, “Pell y bo, pell y bo oddi wrthyf! Nid wyf am ddifetha na distrywio.
21 Nid felly y mae; ond dyn o fynydd-dir Effraim, o'r enw Seba fab Bichri, sydd wedi codi yn erbyn y Brenin Dafydd; dim ond i chwi ei roi ef imi, fe adawaf y ddinas.” Dywedodd y wraig wrth Joab, “Fe deflir ei ben iti dros y mur.”
22 Yna fe aeth y wraig yn ei doethineb at yr holl bobl; torrwyd pen Seba fab Bichri a'i daflu i Joab. Seiniodd yntau'r utgorn, gadawyd y ddinas, a gwasgarodd pawb i'w cartrefi. Dychwelodd Joab i Jerwsalem at y brenin.
23 Joab oedd dros holl fyddin Israel, a Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid.
24 Adoram oedd dros y llafur gorfod, a Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofiadur.
25 Sefa oedd yr ysgrifennydd, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.