23 Joab oedd dros holl fyddin Israel, a Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid.
24 Adoram oedd dros y llafur gorfod, a Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofiadur.
25 Sefa oedd yr ysgrifennydd, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
26 Yr oedd Ira y Jairiad hefyd yn offeiriad i Ddafydd.