16 Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.
17 “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
19 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
20 Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
21 “Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
22 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;